Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
21 Mawrth 2018
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4915
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 2, 4, 5 a 6 gan y Weinidog yr Amgylchedd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.22
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 3 gan y Gweinidog Tai ac Adfywio. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.15
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am oblygiadau adroddiad y Comisiwn Hapchwarae ar hapchwarae yng Nghymru?
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Yn sgil y cyhoeddiad heddiw gan Lywodraeth y DU i gynyddu cyflogau dros filiwn o staff y GIG yn Lloegr, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogau'r GIG yng Nghymru?
Dechreuodd yr eitem am 15.32
Gwnaeth David Melding ddatganiad yn talu teyrnged i’r Arglwydd Crughywel, Nick Edwards.
Gwnaeth Angela Burns ddatganiad am wythnos Mean Bean Challenge Tearfund.
Gwnaeth Jayne Bryant ddatganiad yn dathlu cyrhaeddiad Team Oarstruck.
Dechreuodd yr eitem am 15.38
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM6696 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.83:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
1 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 16.30
NDM6666
Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Dai
Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Adam
Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymunedau, yn darparu trafnidiaeth ar gyfer pobl sy'n wynebu rhwystrau rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a phreifat, yn cefnogi pobl i fyw'n annibynnol a chael mynediad i wasanaethau hanfodol, gan hefyd liniaru materion yn ymwneud ag unigrwydd ac arwahanrwydd.
2. Yn nodi'r pryder am ymgynghoriad presennol Adran Drafnidiaeth y DU ar drwyddedau trafnidiaeth cymunedol (adran 19/22) ac effaith bosibl hyn ar wasanaethau yng Nghymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithio mewn partneriaeth â'r sector trafnidiaeth gymunedol a chyrff cyhoeddus i sicrhau bod y sector yn gallu parhau yn ei rôl unigryw gan ddarparu dewisiadau trafnidiaeth pwrpasol ar gyfer pobl sy'n agored i niwed, er mwyn sicrhau mynediad i wasanaethau tra bod y broses ymgynghori yn mynd rhagddi;
b) datblygu cynlluniau wrth gefn i liniaru unrhyw effaith ar ddarpariaeth trafnidiaeth drwy wasanaethau bws mini a gyflenwir drwy drwyddedau adran 19 a 22;
c) cyhoeddi strategaeth glir sy'n cydnabod yr agwedd drawsbynciol ar ddarparu trafnidiaeth gymunedol ar draws adrannau Llywodraeth Cymru wrth gyflawni nodau strategol Llywodraeth Cymru;
d) darparu sefydlogrwydd sydd ei fawr angen ar gyfer y sector drwy symud tuag at gytundebau ariannu tair blynedd i alluogi sefydliadau i ddatblygu a bwrw ymlaen â chynlluniau, i sicrhau mwy o gynaliadwyedd a dull mwy strategol o ddarparu gwasanaethau; ac
e) sicrhau ymgysylltiad â phartneriaid perthnasol a rhanddeiliaid ledled Cymru i lywio ymateb Llywodraeth Cymru i'r ymgynghoriad, ac i sicrhau dealltwriaeth yn y sector o safbwynt Llywodraeth Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.17
Ni chyflwynwyd cynnig.
Am 17.18, cafodd y trafodion eu hatal dros dro am 15 munud. Cafodd y gloch ei chanu 5 munud cyn ailgynnull ar gyfer dadl Cyfnod 3 y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru).
Dechreuodd yr eitem am 17.33
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, cafodd y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y Bil.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
19 |
1 |
33 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 9.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
1 |
1 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
0 |
35 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
0 |
35 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
47 |
1 |
5 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
47 |
6 |
0 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
47 |
6 |
0 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
47 |
6 |
0 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 7.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
47 |
6 |
0 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 8.
Barnwyd bod holl adrannau ac atodlenni’r Bil wedi’u derbyn, gan ddod â thrafodion Cyfnod 3 i ben.
Nododd y Llywydd y gallai, yn unol â Rheol Sefydlog 26.50A, gadarnhau nad oedd darpariaethau’r Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru), yn ei barn hi, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig.
Dechreuodd yr eitem am 18.12
Un unol â Rheol Sefydlog 26.67, gwnaeth Arweinydd y Tŷ ddatganiad ei bod wedi derbyn gorchymyn gan Ei Mawrhydi y Frenhines a Dug Cernyw i roi gwybod i’r Cynulliad fod y ddau, ar ôl cael gwybod am gynnwys y Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru), wedi rhoi eu cydsyniad i’r Bil.
Cynnig Cyfnod 4 i gymeradwyo’r Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru).
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
1 |
13 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.23
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 17 Ebrill 2018